Dyddiad: 6 Ebrill 2022
Pwnc: Ymgynghoriad: ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Annwyl gyfaill
Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr heriau a allai godi wrth i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ddod i rym. Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut mae'r fframwaith statudol, a sefydlwyd i hyrwyddo gwaith cynllunio a datblygu safleoedd ar gyfer y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gweithio. Bydd yn ystyried materion a fydd yn cynnwys y canlynol:
1. A yw fframwaith presennol Llywodraeth Cymru yn sicrhau digon o safleoedd preswyl a thramwy sy'n ddiwylliannol-briodol i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru.
2. I ba raddau y mae awdurdodau cynllunio lleol a Sipsiwn a Theithwyr yn llwyddo i gydweithio, fel yr argymhellir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o ganfod safleoedd cynaliadwy ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
3. I ba raddau y mae Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u hadolygu i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion llety y gymuned teithwyr.
4. Archwilio'r heriau posibl i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran darparu safleoedd llety addas a digonol ar gyfer cymunedau teithwyr.
5. Archwilio beth fydd goblygiadau’r darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU.
Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei drafodaethau ar yr ymchwiliad. Mae'r Pwyllgor yn edrych yn benodol am eich safbwyntiau ynghylch y cwestiynau a ganlyn:
a) nodi safleoedd preswyl a thramwy cynaliadwy, a
b) thrafod anghenion llety y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
a) heriau penodol i'w goresgyn, a/neu
b) mewn rhai lleoliadau yng Nghymru, yn ymwneud â safleoedd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
Os hoffech ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddTai@senedd.cymru neu anfonwch drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno’n ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaeth statudol.
Gweler y canllawiau i'r rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau a'r Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymwneud â chyfrannu at waith pwyllgorau’r Senedd.
Fel rheol byddwn yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb yn eich rôl broffesiynol, bydd y fersiwn o’ch ymateb a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd/rôl os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.
Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 20 Mai 2022. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Manon George, Clerc ar 0300 200 6219.
Yn gywir
John Griffiths AS
Cadeirydd